Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 4 Mehefin 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.00 - 13.25 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Christine Chapman AC (Cadeirydd) Peter Black AC Alun Davies AC Jocelyn Davies AC Bethan Jenkins AC Janet Finch-Saunders AC Mark Isherwood AC Gwyn R Price AC John Griffiths AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Ken Skates AC, Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Eifiona Williams, Llywodraeth Cymru David Cox, Association of Residential Letting Agents Douglas Haig, Residential Landlord Association Gwilym Hughes Elle McNeil, Cyngor ar Bopeth Cymru Jennie Bibbings, Shelter Cymru Steve Clarke, Welsh Tenants Federation |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Matthew Richards (Cynghorydd Cyfreithiol) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhodri Glyn Thomas AC, Mike Hedges AC a Gwenda Thomas AC. Dirprwyodd John Griffiths AC ar ran Gwenda Thomas AC yn unol â Rheol Sefydlog 17.48. Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan Jocelyn Davies AC ar gyfer eitemau 1 a 2. Dirprwyodd Bethan Jenkins AC ar ran Jocelyn Davies ar gyfer eitemau 1 a 2.
2 Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 1 - y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
· Gwilym Hughes, Prif Arolygydd, Cadw
· Eifiona Williams, Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru;
2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ar:
· statws cyfredol Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol;
· cyfrifoldebau’r Grŵp Amgylchedd Hanesyddol a'r Panel Ymgynghorol arfaethedig ar gyfer Amgylchedd Hanesyddol Cymru, i ddangos sut y byddant yn gweithio ochr yn ochr â'i gilydd.
3 Ystyried Cod Ymarfer drafft ar gyfer Landlordiaid ac Asiantau y Sector Rhentu Preifat - sesiwn dystiolaeth 1
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· David Cox, Cymdeithas Asiantaethau Gosod Preswyl
· Douglas Haig, Cymdeithas y Landlordiaid Preswyl
Cytunodd Cymdeithas y Landlordiaid Preswyl i ddarparu:
· copi o'i gohebiaeth â'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi a'i swyddogion adeg datblygu'r Cod Ymarfer;
· yr awgrymiadau a luniwyd ganddi adeg datblygu'r Cod Ymarfer drafft.
4 Ystyried Cod Ymarfer drafft ar gyfer Landlordiaid ac Asiantau y Sector Rhentu Preifat - sesiwn dystiolaeth 2
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Elle McNeil, Cyngor ar Bopeth Cymru
· Jennie Bibbings, Shelter Cymru
· Steve Clark, Tenantiaid Cymru
5 Papurau i'w nodi
5.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
7 Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): trafod y dystiolaeth a gafwyd yn sesiwn 1
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth.
8 Ystyried Cod Ymarfer drafft ar gyfer Landlordiaid ac Asiantau y Sector Rhentu Preifat: Trafod y dystiolaeth a gafwyd yn sesiynau 1 a 2
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth.
9 Ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru, Elfen 1: tlodi ac anghydraddoldeb - ystyried yr adroddiad drafft
9.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.
10 Ystyried blaenraglen waith
10.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith.
11 Y Bil Awdurdod Lleol (Cymru): y drefn ystyriaeth ar gyfer trafodion Cyfnod 2 yn y Pwyllgor
11.1 Trafododd y Pwyllgor yr ystyriaeth ar gyfer trafodion Cyfnod 2 yn y pwyllgor, a cytunodd mai dyma fydd y drefn ystyried ar gyfer trafodion Cyfnod 2: